Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr, nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di — |
| 2 |
| byddai fel tân yn llosgi brigau sych, neu'n gwneud i ddŵr ferwi — i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti ac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di! |
| 3 |
| Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol, cwbl annisgwyl! Roeddet ti'n dod i lawr ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen. |
| 4 |
| Does neb erioed wedi clywed a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti, sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe. |
| 5 |
| Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn, ac sy'n cofio sut un wyt ti. Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd, gallen ni ddal gael ein hachub! |
| 6 |
| Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd. |
| 7 |
| Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu'n methiant! |
| 8 |
| Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni! Gwaith dy ddwylo di ydyn ni — ni ydy'r clai a ti ydy'r crochenydd. |
| 9 |
| Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, ARGLWYDD! Paid dal dig am ein methiant am byth! Edrych arnon ni i gyd, dy bobl! |
| 10 |
| Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch! Mae Seion yn anialwch, a Jerwsalem yn adfeilion. |
| 11 |
| Mae'r deml gysegredig a hardd ble roedd ein hynafiaid yn dy foli di, wedi cael ei llosgi'n ulw. Mae ein trysorau'n beil o rwbel. |
| 12 |
| Wyt ti'n mynd i ddal i ymatal er gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n dawel tra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm? |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/064.mp3
66
64