"Yr oeddwn yno i'm ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf, yno i'm cael gan rai na chwilient amdanaf. Dywedais, 'Edrychwch, dyma fi', wrth genedl na alwai ar fy enw.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, 'Paid 'i ddinistrio, oherwydd y mae bendith ynddo', felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision; ni ddinistriaf yr un ohonynt.
dedfrydaf chwi i'r cleddyf, a'ch darostwng i gyd i'ch lladd; canys gelwais, ond ni roesoch ateb, lleferais, ond ni wrandawsoch. Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd."
Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu; bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu; bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;
Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd, a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd." "Anghofir y treialon gynt, ac fe'u cuddir o'm golwg.
Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wnnt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd," medd yr ARGLWYDD.