“Roeddwn yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i; dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i. Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’ wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw.
Edrychwch! Mae wedi ei gofnodi o'm blaen i! Dw i ddim am ei ddiystyru — dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn! Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau,
a phechodau eu hynafiaid hefyd.” —meddai'r ARGLWYDD— “Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd, ac yn fy enllibio i ar y bryniau. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawn am bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!”
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin, a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’ felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision — fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.
Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob, a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda. Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu, a bydd fy ngweision yn byw yno.
Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a diystyru fy mynydd cysegredig i; chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd,’ ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛.
Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf! Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio — achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb; roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando. Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu. Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu. Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio.
Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltith gan y rhai dw i wedi eu dewis. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di! Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision.
Bydd pwy bynnag drwy'r byd sy'n derbyn bendith yn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon; a'r sawl yn unman sy'n tyngu llw o ffyddlondeb yn ei gael wrth dyngu llw i enw'r Duw ffyddlon. Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio, ac wedi eu cuddio o'm golwg.
Fydd babis bach ddim yn marw'n ifanc, na phobl mewn oed yn marw'n gynnar. Bydd rhywun sy'n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a'r un sy'n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith.
Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo.
Fyddan nhw ddim yn gweithio'n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i'w colli. Byddan nhw'n bobl wedi eu bendithio gan yr ARGLWYDD, a'u plant gyda nhw hefyd.
Bydd y blaidd a'r oen yn pori gyda'i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw'n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.