Yn ystod dyddiau Ahas fab Jotham, fab Usseia, brenin Jwda, daeth Resin brenin Syria, a Pheca fab Remaleia, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Jerwsalem, ond methu ei gorchfygu.
Yr oedd tu375? Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, "Dos allan, a'th fab Searjasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr,
a dywed wrtho, 'Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.
Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates, brenin Asyria, yn eillio'r holl ben a blew'r traed, a thorri ymaith y farf hefyd.