Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf yr Ewffrates lifo trostyn nhw — sef brenin Asyria a'i fyddin. Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau, ac yn gorlifo'i glannau.
Casglwch i ryfel, chi bobloedd — ond cewch eich dryllio! Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd: Paratowch i ryfel — ond cewch eich dryllio; Paratowch i ryfel — ond cewch eich dryllio!
Bydd e yn gysegr — ond i ddau deulu brenhinol Israel bydd yn garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Bydd fel trap neu fagl i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.
Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion.
Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio eu ‛duwiau‛ — holi'r meirw ar ran y byw?”