Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu camdrin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar l hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y mr, dros yr Iorddonen.
Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, "Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon".
Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin yn ysu Israel a'u safnau'n agored. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwu375?r ifainc, ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon. Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.