Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Neges Jeremeia, mab Chilceia oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin). |
| 2 |
| Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd. |
| 3 |
| Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. |
| 4 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: |
| 5 |
| “Roeddwn i'n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni. Dyma fi'n dy benodi di'n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.” |
| 6 |
| “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i, “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.” |
| 7 |
| Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’ Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon di ac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti. |
| 8 |
| Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r ARGLWYDD “achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.” |
| 9 |
| Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. |
| 10 |
| Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.” |
| 11 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.” |
| 12 |
| A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.” |
| 13 |
| Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” |
| 14 |
| “Ie,” meddai'r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. |
| 15 |
| Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd:” (Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn) “‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddau wrth giatiau Jerwsalem. Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas, ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’ |
| 16 |
| “Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi ei wneud — sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi eu gwneud gyda'i dwylo eu hunain!” |
| 17 |
| “Ond ti, Jeremeia, bydd di'n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod a'u hofn nhw, neu bydda i'n dy ddychryn di o'u blaenau nhw. |
| 18 |
| Ond heddiw dw i'n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi'n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a'i phobl. |
| 19 |
| Byddan nhw'n trïo dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai'r ARGLWYDD. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/jeremiah/001.mp3
52
1