Y mae'r pendefigion yn anfon y gweision i gyrchu du373?r; dnt at y ffosydd a'u cael yn sych, dychwelant a'u llestri'n wag; mewn cywilydd a dryswch fe guddiant eu hwynebau.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn: "Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed; am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt, fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau."
Dywedais innau, "O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, 'Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.'"
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: 'Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.
Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.'
Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd 'r cleddyf. Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn. Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad, a heb ddeall.'"
A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion? Pam y trewaist ni heb fod inni iachd? Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni; am amser iachd, ond dychryn a ddaeth.
A oes neb ymhlith gau dduwiau'r cenhedloedd a rydd lawogydd? A rydd y nefoedd ei hun gawodydd? Na, ond ti, yr ARGLWYDD ein Duw, ynot ti yr hyderwn, ti yn unig a wnei'r pethau hyn oll.