Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Pe safai Moses a Samuel o'm blaen, eto ni byddai gennyf serch at y bobl hyn. Bwrw hwy allan o'm golwg, a bydded iddynt fynd ymaith.
Ac os dywedant wrthyt, 'I ble'r awn?', dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Y sawl sydd i angau, i angau; y sawl sydd i gleddyf, i gleddyf; y sawl sydd i newyn, i newyn; y sawl sydd i gaethiwed, i gaethiwed.'
Llesg'r un a esgorodd ar saith o feibion; syrth mewn llesmair, machluda ei haul, a hi eto'n ddydd; fe'i dygir i gywilydd a gwaradwydd. Rhoddaf i'r cleddyf y rhai sy'n weddill, yng ngu373?ydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD."
Gwae fi, fy mam, iti fy nwyn i'r byd yn u373?r ymrafael, yn u373?r cynnen i'r holl wlad. Ni bm nac echwynnwr na dyledwr, eto y mae pawb yn fy melltithio.
Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Os dychweli, fe'th adferaf ac fe sefi o'm blaen; os tynni allan y gwerthfawr oddi wrth y di-werth, byddi fel genau i mi; try'r bobl atat ti, ond ni throi di atynt hwy.
Fe'th wnaf i'r bobl hyn yn fagwyr o bres; ymladdant yn dy erbyn ond ni'th orchfygant, canys yr wyf gyda thi i'th achub ac i'th wared," medd yr ARGLWYDD.