'Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.'
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Paid mynd i du375? galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,' medd yr ARGLWYDD, 'a hefyd fy nghariad a'm tosturi.
Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid.
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau, rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd, ar lais priodfab a phriodferch.'
"Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, 'Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?'
Dywed dithau wrthynt, 'Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,' medd yr ARGLWYDD, 'a rhodio ar l duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.
Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr chwi.'
"Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod," medd yr ARGLWYDD, "pryd na ddywedir mwyach, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft',
ond, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.' Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.
"Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer," medd yr ARGLWYDD, "ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau.
Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth."
O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid, fy noddfa mewn dydd o flinder, atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud, "Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd, oferedd, a phethau di-les.