Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti, a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost, canys yn fy nicter cyneuwyd tn a lysg hyd byth."
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Melltigedig fo'r sawl sydd 'i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD.
Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid ffrwytho.
Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd, y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn; yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef, a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.
O ARGLWYDD, gobaith Israel, gwaradwyddir pawb a'th adawa; torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Dos, a saf ym mhorth Benjamin, yr un y mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan trwyddo, ac yn holl byrth Jerwsalem,
Er hynny, os gwrandewch yn ddyfal arnaf, medd yr ARGLWYDD, a pheidio dwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio'r dydd Saboth trwy beidio gwneud dim gwaith arno,
yna fe ddaw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion i eistedd ar orsedd Dafydd, ac i deithio mewn cerbydau a marchogaeth ar feirch hwy a'u tywysogion, pobl Jwda a phres-wylwyr Jerwsalem a chyfanheddir y ddinas hon hyd byth.
A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i du375?'r ARGLWYDD.
Ac os na wrandewch arnaf a sancteiddio'r dydd Saboth, a pheidio chludo baich wrth ddod i mewn i byrth Jerwsalem ar y dydd Saboth, yna mi gyneuaf dn yn y pyrth hynny, tn a lysg balasau Jerwsalem, heb neb i'w ddiffodd.'"