"Oni allaf fi eich trafod chwi, tu375? Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud 'r clai?" medd yr ARGLWYDD. "Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tu375? Israel.
Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.'
Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio, ac wedi arogldarthu i dduwiau gau a barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd, a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.
A dywedodd y bobl, "Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu 'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau."
Am hynny rho'u plant i'r newyn, lladder hwy trwy rym y cleddyf; bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant, a'u gwu375?r yn farw gelain, a'u gwu375?r ifainc wedi eu taro 'r cleddyf mewn rhyfel.
Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybod am eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd. Paid maddau iddynt eu camwedd, na dileu eu pechod o'th u373?ydd. Bydded iddynt faglu o'th flaen; delia hwy yn awr dy ddigofaint.