"Dos, a chyhoedda yng nghlyw Jerwsalem, a dywed: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cofiaf di am dy deyrngarwch yn dy ieuenctid, ac am dy serch yn ddyweddi, ac am iti fy nghanlyn yn y diffeithwch, mewn tir heb ei hau.
Ni ddywedasant, 'Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft, a'n harwain yn y diffeithwch, mewn tir anial, llawn o dyllau, tir sychder a thywyllwch dudew, tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?'
Ni ddywedodd yr offeiriaid, 'Ple mae'r ARGLWYDD?' Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod, a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn; proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesd.
"Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg: fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, a chloddio iddynt eu hunain bydewau, pydewau toredig, na allant ddal du373?r.
Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun, a'th geryddu gan dy wrthgiliad. Ystyria a gwl mai drwg a chwerw yw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw, a pheidio 'm hofni," medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.
"Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau, a dweud, 'Ni wasanaethaf'. Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, plygaist i buteinio.
"Sut y gelli ddweud, 'Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar l Baalim?' Gwl dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost. Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;
Dywedant wrth bren, 'Ti yw fy nhad', ac wrth garreg, 'Ti a'm cenhedlodd'. Troesant ataf wegil, ac nid wyneb; ond yn awr eu hadfyd dywedant, 'Cod, achub ni'.
Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti? Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd. Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus 'th ddinasoedd, O Jwda.
Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD. Ai anialwch a fm i Israel, neu wlad tywyllwch? Pam y dywed fy mhobl, 'Yr ydym ni'n rhydd; ni ddown mwyach atat ti'?