Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan anfonodd y Brenin Sedeceia ato ef Pasur fab Malcheia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia, a dweud,
"Ymofyn 'r ARGLWYDD drosom ni, oherwydd y mae Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn. Tybed a wna yr ARGLWYDD ni yn l ei holl ryfeddodau, a pheri iddo gilio ymaith oddi wrthym?"
'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon.
Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.'
Bydd y sawl sy'n aros yn y ddinas hon yn marw drwy gleddyf neu newyn neu haint, a'r sawl sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Caldeaid sy'n gwarchae arnoch yn byw; bydd yn arbed ei fywyd.
Tu375? Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Barnwch yn uniawn yn y bore, achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr, rhag i'm llid fynd allan yn dn, a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd eich gweithredoedd drwg.'
"Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffryn wrth graig y gwastadedd," medd yr ARGLWYDD. "Fe ddywedwch chwi, 'Pwy ddaw i waered yn ein herbyn? Pwy ddaw i mewn i'n gwl?'