Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd,
Ymofyn, atolwg, â'r ARGLWYDD drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr ARGLWYDD â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.
Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer, a mi a'u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon.
Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i weision, a'r bobl, a'r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a'u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.
Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a'i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo.
Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr ARGLWYDD: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a'i llysg hi â thân.
O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i'm llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.
Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr ARGLWYDD; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i'n herbyn? neu, Pwy a ddaw i'n hanheddau?