“Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.”
Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
“Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw.
Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD.
“Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”
Neges am y proffwydi: Dw i wedi cynhyrfu'n lân, a dw i'n crynu trwyddo i. Dw i fel dyn wedi meddwi; fel rhywun sy'n chwil gaib. Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r ARGLWYDD a'i neges yn cael ei drin.
Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo. Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi ei felltithio. Does dim porfa yn yr anialwch — mae wedi gwywo. A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg ac yn camddefnyddio eu grym.
“Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol. Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud hyd yn oed yn y deml ei hun!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
“Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig. Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio. Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw. Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll. Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd! Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg yn lle ceisio eu cael nhw i stopio. Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i. Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.”
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y proffwydi: “Dw i'n mynd i wneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw, ac yfed dŵr gwenwynig barn. Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol am ledu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud — maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag. Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
Maen nhw'n dal ati i ddweud wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
“Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi yn ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw.
Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo eu hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd?
Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid — anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.
Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!” meddai'r ARGLWYDD.
Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi ei ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i ddim eu hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD.
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’
Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD holl-bwerus, y Duw byw!
Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny.