"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Saf yng nghyntedd tu375?'r ARGLWYDD a phan ddaw holl ddinasoedd Jwda i addoli yn nhu375?'r ARGLWYDD, llefara wrthynt yr holl eiriau a orchmynnaf, heb atal gair.
Efallai y gwrandawant, a dychwelyd, pob un o'i ffordd ddrwg, a minnau'n newid fy meddwl am y drwg a fwriedais iddynt oherwydd eu gweithredoedd drygionus.
Pan orffennodd fynegi'r cyfan a orch-mynnodd yr ARGLWYDD wrth yr holl bobl, daliodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl ef, a dweud, "Rhaid iti farw;
pam y proffwydaist yn enw'r ARGLWYDD a dweud, 'Bydd y tu375? hwn fel Seilo, a gwneir y ddinas hon yn anghyfannedd, heb breswylydd'?" Yna ymgasglodd yr holl bobl o gwmpas Jeremeia yn nhu375?'r ARGLWYDD.
Dywedodd yr offeiriaid a'r proffwydi wrth y tywysogion ac wrth yr holl bobl, "Y mae'r gu373?r hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd proffwydodd yn erbyn y ddinas hon, fel y clywsoch chwi eich hunain."
Yna llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion a'r holl bobl, gan ddweud, "Yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tu375? hwn a'r ddinas hon yr holl eiriau a glywsoch.
Yn awr, gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe newidia'r ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eich erbyn.
Ond gwybyddwch yn sicr, os lladdwch fi, y byddwch yn dwyn arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon a'i thrigolion, waed dyn dieuog. Yn wir, yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon atoch i lefaru'r holl eiriau hyn yn eich clyw."
Dywedodd y tywysogion a'r holl bobl wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, "Nid yw'r gu373?r hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd yn enw'r ARGLWYDD ein Duw y llefarodd wrthym."
"Bu Micha o Moreseth yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, a dywedodd wrth holl bobl Jwda, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.'
A laddwyd ef gan Heseceia brenin Jwda a holl Jwda? Onid ofnodd ef yr ARGLWYDD a cheisio ffafr yr ARGLWYDD, ac oni newidiodd yr ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eu herbyn? Ond dyma ni am wneud drwg mawr i ni ein hunain."
A bu gu373?r arall hefyd yn proffwydo yn enw'r ARGLWYDD, Ureia fab Semaia o Ciriath-jearim. Proffwydodd yn union yr un peth Jeremeia yn erbyn y ddinas hon a'r wlad hon.
a daethant i'r Aifft, a chyrchu Ureia oddi yno a'i ddwyn at y Brenin Jehoiacim; lladdodd yntau ef 'r cleddyf, a thaflu ei gorff i fynwent y bobl gyffredin.