Bydd yr holl genhedloedd yn ei wasanaethu ef a'i fab a mab ei fab, nes dod awr ei wlad yntau, a'i feistroli gan genhedloedd niferus a brenhinoedd mawrion.
Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno 'r cleddyf a newyn a haint," medd yr ARGLWYDD, "nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef.
Peidiwch gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, 'Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.'
Lleferais wrth Sedeceia brenin Jwda hefyd yn unol 'r holl eiriau hyn, gan ddweud, "Rhowch eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu ef a'i bobl, er mwyn ichwi gael byw.
Pam y byddwch farw, ti a'th bobl, trwy'r cleddyf a newyn a haint, yn l yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD am y genedl na fydd yn gwasanaethu brenin Babilon?
Yn wir, nid myfi a'u hanfonodd," medd yr ARGLWYDD, "ond proffwydo'n gelwyddog y maent yn fy enw i, er mwyn i mi eich alltudio chwi ac i chwi drengi, chwi a'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi."
Yna lleferais wrth yr offeiriaid a'r holl bobl hyn, gan ddweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Peidiwch gwrando ar eiriau eich proffwydi sy'n proffwydo i chwi fod llestri tu375?'r ARGLWYDD i'w dwyn yn l o Fabilon yn awr ar fyrder. Y maent yn proffwydo celwydd i chwi;
Os proffwydi ydynt, ac os yw gair yr ARGLWYDD ganddynt, boed iddynt ymbil yn awr ar ARGLWYDD y Lluoedd rhag i'r llestri a adawyd yn nhu375?'r ARGLWYDD, ac yn nhu375? brenin Jwda ac yn Jerwsalem, fynd i Fabilon.'
heb eu cymryd ymaith gan Nebuchadnesar brenin Babilon pan gaethgludodd Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, o Jerwsalem i Fabilon, ynghyd holl uchelwyr Jwda a Jerwsalem.