Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Yn fuan ar ôl i Sedeceia fab Joseia ddod yn frenin ar Jwda dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: |
| 2 |
| Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Gwna iau i ti dy hun, a'i rwymo am dy wddf gyda strapiau lledr. |
| 3 |
| Wedyn anfon neges at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon. Rho'r neges i'r llysgenhadon maen nhw wedi eu hanfon at y brenin Sedeceia yn Jerwsalem. |
| 4 |
| Dyma'r neges: ‘Mae Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn dweud, |
| 5 |
| “Fi ydy'r Duw wnaeth greu y ddaear a'r holl bobl ac anifeiliaid sydd arni. Dw i'n Dduw cryf a nerthol, a fi sy'n dewis pwy sy'n ei rheoli. |
| 6 |
| Dw i wedi penderfynu rhoi eich gwledydd chi i gyd yn nwylo fy ngwas, y brenin Nebwchadnesar o Babilon. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion yn ei wasanaethu e! |
| 7 |
| Bydd y gwledydd i gyd yn ei wasanaethu e, a'i fab a'i ŵyr. Ond wedyn bydd yr amser yn dod pan fydd ei wlad e'n syrthio, a bydd nifer o wledydd eraill a brenhinoedd mawrion yn gorchfygu Babilon ac yn ei rheoli hi. |
| 8 |
| “‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi eu dinistrio nhw yn llwyr. |
| 9 |
| Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na'r bobl hynny sy'n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda'r meirw neu ddewino — y rhai sy'n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon. |
| 10 |
| Maen nhw'n dweud celwydd. Os gwrandwch chi arnyn nhw byddwch chi'n cael eich cymryd i ffwrdd yn bell o'ch gwlad. Bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch yn marw yno. |
| 11 |
| Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’” |
| 12 |
| Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw. |
| 13 |
| Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd gan y cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon. |
| 14 |
| Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd! |
| 15 |
| ‘Wnes i ddim eu hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Mae'n nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’” |
| 16 |
| Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd. |
| 17 |
| Peidiwch gwrando arnyn nhw. Os gwnewch chi wasanaethu brenin Babilon, cewch fyw. Pam ddylai'r ddinas yma gael ei dinistrio? |
| 18 |
| Os ydyn nhw'n broffwydi go iawn ac os ydy'r ARGLWYDD yn siarad hefo nhw, gwell iddyn nhw ddechrau gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD holl-bwerus — gweddïo na fydd y dodrefn a'r llestri sydd ar ôl yn y deml a palas y brenin yn cael eu cymryd i ffwrdd i Babilon! |
| 19 |
| Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y pileri pres o flaen y deml, y ddysgl fawr bres sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, a'r trolïau pres, ac am bob dodrefnyn arall gwerthfawr sydd wedi ei adael yn y ddinas yma. |
| 20 |
| (Dyma'r pethau adawodd Nebwchadnesar brenin Babilon yn Jerwsalem pan aeth â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, a phobl bwysig Jerwsalem i gyd yn gaethion i Babilon.) |
| 21 |
| Ie, dyma mae Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud am y pethau gwerthfawr sydd wedi eu gadael yn y deml a palas y brenin yn Jerwsalem: |
| 22 |
| ‘Bydd y cwbl yn cael eu cario i ffwrdd i Babilon ac yn aros yno nes bydda i'n dewis gwneud rhywbeth amdanyn nhw. Wedyn bydda i'n dod â nhw'n ôl i'r lle yma eto,’ Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/jeremiah/027.mp3
52
27