Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon.
priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwu375?r i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau.
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Peidiwch chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch gwrando ar y breudd-wydion a freuddwydiant.
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn.
fe'm cewch,' medd yr ARGLWYDD, 'ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,' medd yr ARGLWYDD; 'ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.'
Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud;
ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt.
Ymlidiaf hwy 'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt.
Megis na wrandawsant ar fy ngeiriau, a anfonais atynt yn gyson trwy fy ngweision y proffwydi,' medd yr ARGLWYDD, 'felly ni wrandawsoch chwithau,' medd yr ARGLWYDD.
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: 'Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Neb-uchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gu373?ydd chwi.
Ac o'u hachos hwy fe gyfyd ymhlith holl gaethglud Jwda ym Mabilon y ffurf hon o felltith: "Boed i'r ARGLWYDD dy drin di fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon yn y tn."
Oherwydd gwnaethant yn ysgeler yn Israel, gan odinebu gwragedd eu cymdogion, a dweud yn f'enw i gelwydd nas gorchmynnais iddynt. Myfi sy'n gwybod, ac yn tystio,' medd yr ARGLWYDD."
'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Anfonaist lythyrau yn d'enw dy hun at holl bobl Jerwsalem, ac at yr offeiriad Seffaneia fab Maaseia ac at yr holl offeiriaid, gan ddweud:
Gosododd yr ARGLWYDD di yn offeiriad yn lle Jehoiada'r offeiriad, i arolygu yn nhu375?'r ARGLWYDD ar bob gu373?r gorffwyll sy'n proffwydo, a'i osod mewn cyffion a rhigod.
"Anfon at yr holl gaethglud a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth Semaia y Nehelamiad: Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon, a pheri ichwi ymddiried mewn celwydd
am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n ymweld Semaia y Nehelamiad, ac 'i hil. Ni adewir yr un o'i eiddo ymhlith y bobl hyn, ac ni wl y daioni yr wyf fi am ei roi i'm pobl, medd yr ARGLWYDD, oherwydd dysgodd wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.'"