Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig, a hithau wedyn yn ei adael ac yn priodi rhywun arall, dydy'r dyn cyntaf ddim yn gallu ei chymryd hi yn ôl. Byddai gwneud hynny'n llygru'r tir! Ti wedi actio fel putain gyda dy holl gariadon; felly wyt ti'n meddwl y cei di ddod yn ôl ata i?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
“Edrych ar y bryniau o dy gwmpas! Oes rhywle rwyt heb orwedd i gael rhyw? Roeddet ti'n eistedd ar ochr y ffordd, fel bedowin yn yr anialwch, yn disgwyl amdanyn nhw! Ti wedi llygru'r tir gyda dy holl buteinio a'th ddrygioni.
Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth? Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’ Ie, dyna beth ti'n ddweud, ond yna'n dal i wneud cymaint o ddrwg ag y medri di!”
Pan oedd Joseia yn frenin dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat — mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwarae'r butain drwy addoli duwiau eraill.
Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!
Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD.
Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel, ‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen. Dw i'n Dduw trugarog! Fydda i ddim yn dal dig am byth.
Dim ond i ti gyfaddef dy fai — cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw, a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog. Cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD.
“‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n eich cymryd chi yn ôl i Seion — bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd.
Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd.
Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg.
Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”
“Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab! Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti — yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’ Roeddwn i'n arfer meddwl y byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’ a byth yn troi cefn arna i.
Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau. Sŵn pobl Israel yn crïo ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛. Maen nhw wedi anghofio'r ARGLWYDD eu Duw a chrwydro mor bell oddi wrtho!
Ond mae Baal, y duw ffiaidd yna, wedi llyncu'r cwbl wnaeth ein hynafiaid weithio mor galed amdano o'r dechrau — eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd, a'n gwarth fel blanced troson ni. Dŷn ni a'n hynafiaid wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw o'r dechrau cyntaf hyd heddiw. Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.”