×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Jeremeia 30

1
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
2
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr,
3
oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,' medd yr ARGLWYDD, 'yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,' medd yr ARGLWYDD, 'a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.'"
4
Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda:
5
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Su373?n dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch.
6
Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor? Pam, ynteu, y gwelaf bob gu373?r 'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor, a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi?
7
Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg; dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.
8
Yn y dydd hwnnw,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy.
9
Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.
10
"'A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,' medd yr ARGLWYDD, 'paid ag arswydo, Israel, canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
11
Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,' medd yr ARGLWYDD; 'gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith, ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Ond ceryddaf di yn l dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.'"
12
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
13
nid oes neb i ddadlau dy achos; nid oes na moddion nac iachd i'th ddolur.
14
Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio; trewais di dyrnod gelyn, chosb greulon, oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.
15
Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy. Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau yr wyf wedi gwneud hyn i ti.
16
"Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed. Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.
17
Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachf di o'th friwiau," medd yr ARGLWYDD, "am iddynt dy alw yn ysgymun, Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani."
18
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob, yn tosturio wrth ei anheddau. Cyfodir y ddinas ar ei charnedd, a saif y llys yn ei le.
19
Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu, amlhaf hwy, ac ni leihnt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.
20
Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngu373?ydd; cosbaf bob un a'u gorthryma.
21
Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg; paraf iddo nesu, ac fe ddaw ataf; canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?" medd yr ARGLWYDD.
22
"A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi."
23
Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, corwynt yn chwyrlo, yn troi uwchben y drygionus.
24
Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni; yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau