Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a'i holl faestrefi, gyda'i holl lu a holl deyrnasoedd y byd oedd dan ei lywodraeth, a'r holl bobloedd.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: "Dos a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dweud wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi thn.
Ac ni ddihengi dithau o'i afael, ond yr wyt yn sicr o gael dy ddal, a'th roi yn ei afael; byddi'n edrych arno lygad yn llygad, ac yntau'n ymddiddan thi wyneb yn wyneb, a byddi'n mynd i Fabilon.
Mewn hedd y byddi farw, ac fel y llosgwyd peraroglau i'th ragflaenwyr, y bren-hinoedd gynt a fu o'th flaen, felly y llosgir hwy i ti; a bydd galar amdanat fel eu harglwydd. Dyma'r gair a leferais i,'" medd yr ARGLWYDD.
pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.
Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar l cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.
"Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho." Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.
A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tu375? y galwyd fy enw arno.
Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn l ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!' medd yr ARGLWYDD. 'Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.
A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngu373?ydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.
Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.
Dyma fi'n gorchymyn,' medd yr ARGLWYDD, 'iddynt droi'n l at y ddinas hon ac ymladd yn ei herbyn; byddant yn ei goresgyn ac yn ei llosgi thn; ie, gwnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.'"