×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Jeremeia 35

1
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn nyddiau Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a dweud,
2
"Dos i du375?'r Rechabiaid, a siarad hwy; pr iddynt ddod i du375?'r ARGLWYDD, i un o'r ystafelloedd yno, a chynnig iddynt win i'w yfed."
3
Yna cymerais Jaasaneia, mab Jeremeia fab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu'r Rechabiaid.
4
Deuthum hwy i du375?'r ARGLWYDD, i ystafell meibion Hanan fab Igdaleia, gu373?r Duw, sef yr ystafell sydd yn ymyl ystafell y tywysogion, ac uwchben ystafell Maaseia fab Salum, ceidwad y drws.
5
Rhois gerbron teulu'r Rechabiaid ffiolau llawn o win a chwpanau, a dywedais wrthynt, "Yfwch win."
6
Ond dywedasant, "Nid yfwn ni win, oherwydd gorchmynnodd Jonadab, mab Rechab ein tad, i ni, 'Peidiwch ag yfed gwin, chwi na'ch plant, byth;
7
peidiwch ag adeiladu tu375?, na hau had, na phlannu gwinllan, na meddiannu dim; ond lle bynnag y byddwch yn aros, trigwch mewn pebyll bob amser, er mwyn ichwi fyw am ddyddiau lawer yn y wlad lle'r ydych.'
8
A buom yn ufudd i lais Jonadab, mab Rechab ein tad, ym mhob peth a orchmynnodd i ni; nid ydym ni na'n gwragedd na'n meibion na'n merched erioed wedi yfed gwin,
9
nac adeiladu tai i fyw ynddynt, nac wedi cael na gwinllan na maes na had.
10
Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni.
11
Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, 'Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria'; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem."
12
Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
13
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?' medd yr ARGLWYDD.
14
'Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi.
15
Anfonais atoch fy holl weision, y proffwydi, a'u hanfon yn gyson gan ddweud: "Trowch yn wir bob un o'i ffordd ddrygionus, a gwella'ch gweithredoedd; peidiwch mynd ar l duwiau eraill i'w gwasanaethu. Yna cewch fyw yn y tir a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid." Ond ni wrandawsoch arnaf fi nac ufuddhau.
16
Cadwodd meibion Jonadab fab Rechab orchymyn eu tad, ond nid ufuddhaodd y bobl hyn i mi.'
17
"Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: 'Yr wyf am ddwyn ar Jwda a holl drigolion Jerwsalem yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, oherwydd lleferais wrthynt ac ni wrandawsant, gelwais arnynt ac nid atebasant.'"
18
Ac wrth deulu'r Rechabiaid dywedodd Jeremeia, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Oherwydd i chwi ufuddhau i orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl ddeddfau a gwneud pob peth a orchmynnodd i chwi,
19
am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Ni fydd Jonadab fab Rechab byth heb u373?r i sefyll yn fy ngu373?ydd.'"
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau