Anfonodd y Brenin Sedeceia Jehucal fab Selemeia a Seffaneia fab Maaseia yr offeiriad at y proffwyd Jeremeia, a dweud, "Gwedda yn awr drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw."
"Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Dywedwch fel hyn wrth frenin Jwda, sydd wedi eich anfon i ymofyn mi: Bydd llu Pharo, a ddaeth atoch yn gymorth, yn dychwelyd i'w wlad ei hun, i'r Aifft.
Oherwydd pe baech yn trechu holl lu'r Caldeaid sydd yn rhyfela yn eich erbyn, heb adael neb ond y rhai archolledig, eto byddent yn codi bob un o'i babell ac yn llosgi'r ddinas hon thn.'"
a phan gyrhaeddodd borth Benjamin, yr oedd swyddog y gwarchodlu yno, dyn o'r enw Ireia fab Selemeia, fab Hananeia; daliodd ef y proffwyd Jeremeia a dweud, "Troi at y Caldeaid yr wyt ti."
Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w u373?ydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei du375?, a dweud, "A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?" Atebodd Jeremeia, "Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon."
Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.