A thi a dyngi, Byw yw yr ARGLWYDD, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a'r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.
Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i'm digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.
Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.
Y llew a ddaeth i fyny o'i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o'i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a'th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
Ac yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a'r proffwydi a ryfeddant.
Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;
Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.
Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i; meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.
Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi, Mi a'i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.
Rhag trwst y gwŷr meirch a'r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy a ânt i'r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.
A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y'th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a'th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.
Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.