×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Jeremeia 41

1
Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elisama, o deulu'r brenin, a chydag ef bendefigion y brenin, deg ohonynt, i Mispa at Gedaleia fab Ahicam; a thra oeddent yn bwyta pryd gyda'i gilydd yn Mispa,
2
cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, 'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.
3
Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.
4
Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod,
5
daeth gwu375?r o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, bwyd-offrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD.
6
Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu hwy dywedodd, "Dewch at Gedaleia fab Ahicam."
7
Wedi iddynt gyrraedd canol y ddinas, lladdwyd hwy gan Ismael fab Nethaneia a'r gwu375?r oedd gydag ef, a'u bwrw i bydew.
8
Ond dywedodd deg o ddynion o'u plith wrth Ismael, "Paid 'n lladd ni, oherwydd y mae gennym yn y maes gronfa gudd o wenith a haidd ac olew a ml." Felly ni laddwyd y rhain gyda'u cymdeithion.
9
Y pydew yr oedd y Brenin Asa wedi ei gloddio pan fygythiwyd ef gan Baasa brenin Israel oedd yr un y bwriodd Ismael iddo holl gelaneddau'r gwu375?r yr oedd wedi eu lladd trwy eu twyllo ag enw Gedaleia. Llanwodd Ismael fab Nethaneia y pydew 'r lladdedigion.
10
Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.
11
Pan glywodd Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd arfog oedd gydag ef, am yr holl ddrwg yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi ei wneud,
12
cymerasant gyda hwy eu holl wu375?r i ymladd yn erbyn Ismael fab Nethaneia, a daethant o hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
13
Llawenychodd yr holl bobl oedd gydag Ismael pan welsant Johanan fab Carea a holl swyddogion ei luoedd,
14
a dyna'r holl bobl yr oedd Ismael wedi eu dwyn yn gaeth o Mispa yn troi ac yn mynd drosodd at Johanan fab Carea.
15
Ond dihangodd Ismael fab Nethaneia, ac wyth o ddynion gydag ef, oddi wrth Johanan, a mynd drosodd at yr Ammoniaid.
16
Yna cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion ei luoedd bawb oedd ar l o'r bobl yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi eu dwyn o Mispa, ar l iddo ladd Gedaleia fab Ahicam. Dygodd ef yn l o Gibeon ddynion a gwu375?r rhyfel, gwragedd a phlant ac eunuchiaid.
17
Aethant oddi yno ac aros yn llety Chimham, yn ymyl Bethlehem, ar eu ffordd wrth ffoi i'r Aifft
18
rhag y Caldeaid; oblegid yr oeddent yn eu hofni hwy am fod Ismael fab Nethaneia wedi lladd Gedaleia fab Ahicam, y gu373?r a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau