Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dyma'r gair a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Baruch fab Nereia, pan ysgrifennodd ef y geiriau hyn mewn llyfr, yn l cyfarwyddyd Jeremeia, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: |
| 2 |
| "Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel wrthyt ti, Baruch: |
| 3 |
| 'Dywedaist, "Gwae fi, oherwydd ychwanegodd yr ARGLWYDD dristwch at fy ngofid; diffygiais gan fy ngriddfan, ac ni chefais orffwys."' |
| 4 |
| Fel hyn y dywedi wrth Baruch: 'Dyma air yr ARGLWYDD: Wele, fe dynnaf i lawr yr hyn a adeiledais, a diwreiddio'r hyn a blennais. Digwydd hyn i'r holl wlad. |
| 5 |
| A thithau, a geisi i ti dy hun bethau mawrion? Paid 'u ceisio, oherwydd dyma fi'n dod drwg ar bob cnawd,' medd yr ARGLWYDD; 'ond gadawaf i ti arbed dy fywyd, ple bynnag yr ei.'" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/jeremiah/045.mp3
52
45