Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r proffwyd Jeremeia yn rhoi neges i Barŵch fab Nereia oedd yn ysgrifennu'r cwbl roedd Jeremeia'n ei ddweud mewn sgrôl. (Roedd hyn yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda): |
| 2 |
| [2-3] “Barŵch, rwyt ti'n dweud, ‘Mae hi ar ben arna i! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi tristwch ar ben y poen oedd yna'n barod! Dw i wedi blino tuchan. Alla i ddim gorffwys.’ Wel, dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrthot ti: |
| 3 |
| 4 |
| ‘Dw i'n mynd i fwrw i lawr beth dw i wedi ei adeiladu, a thynnu o'r gwraidd beth dw i wedi ei blannu. Bydda i'n gwneud hyn drwy'r byd i gyd. |
| 5 |
| Ddylet ti ddim disgwyl pethau mawr i ti dy hun. Dw i'n dod â dinistr ar y ddynoliaeth gyfan. Ond bydda i'n dy gadw di'n fyw ble bynnag ei di.’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/jeremiah/045.mp3
52
45