am yr Aifft, ynglu375?n lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
Ymlaen, chwi feirch; rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel. Allan, chwi wu375?r cedyrn Ethiopiaid a gwu375?r Put, sy'n dwyn tarian; gwu375?r o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.
Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, dydd dialedd i ddial ar ei elynion. Ysa'r cleddyf nes syrffedu; meddwa ar eu gwaed. Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberth yng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.
"Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch yn Migdol, hysbyswch yn Noff ac yn Tahpanhes; dywedwch, 'Saf, a bydd barod, canys y mae cleddyf yn ysu o'th amgylch.'
Parodd i luoedd faglu a syrthio y naill yn erbyn y llall. Dywedasant, 'Cyfodwch, dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.'
Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanol fel lloi pasgedig; a throesant hwythau hefyd ymaith, a ffoi ynghyd, heb oedi; canys daeth dydd eu gofid arnynt, ac awr eu cosbi.
Rhof hwy yng ngafael y rhai sy'n ceisio'u heinioes, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael ei weision; ac wedi hynny cyfanheddir hi fel o'r blaen," medd yr ARGLWYDD.
"Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni; paid ag arswydo, Israel; canys dyma fi'n dy achub o bell, a'th had o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni," medd yr ARGLWYDD, "canys yr wyf fi gyda thi; gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gyrrais di atynt; ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Disgyblaf di mewn barn, ni'th adawaf yn ddi-gosb."