Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. |
| 2 |
| "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele, y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd, ac yn llifeirio'n ffrwd gref; llifant dros y wlad a'i chynnwys, ei dinasoedd a'u preswylwyr. Y mae'r bobl yn gweiddi a holl breswylwyr y wlad yn udo, |
| 3 |
| oherwydd su373?n carnau ei feirch yn curo, ac oherwydd trwst ei gerbydau a thwrf yr olwynion. Ni thry'r rhieni'n l i edrych am y plant; gwanychodd eu dwylo gymaint. |
| 4 |
| Daeth y dydd i ddinistrio yr holl Philistiaid, i dorri allan o Tyrus ac o Sidon bob un sy'n aros i'w cynorthwyo. Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid, gweddill ynystir Cafftor. |
| 5 |
| Daeth moelni ar Gasa, a dinistriwyd Ascalon. Ti, weddill yr Anacim, pa hyd yr archolli dy hun? |
| 6 |
| O gleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd y byddi heb ymlonyddu? Dychwel i'th wain; gorffwys, a bydd dawel. |
| 7 |
| Pa fodd yr ymlonydda, gan i'r ARGLWYDD ei orchymyn? Yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y mr y gosododd ef.'" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/jeremiah/047.mp3
52
47