×

Beibl Cymraeg 2023

Jeremeia 47

1
Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa.
2
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo. Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir. Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi, y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw. Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn, a phopeth byw yn griddfan mewn poen.
3
Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu, y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan. Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydau heb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plant am fod arnynt gymaint o ofn.
4
Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio, a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon. Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid, y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.
5
Bydd pobl Gasa yn siafio eu pennau mewn galar, ac Ashcelon yn cael eu taro'n fud. Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatir yn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?”
6
“O! gleddyf yr ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i ladd? Dos yn ôl i'r wain! Aros yno, a gorffwys!”
7
“Ond sut mae'n gallu gorffwys pan mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo? Fe sydd wedi dweud wrtho am ymosod ar dref Ashcelon a phobl yr arfordir.”
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau