Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd! Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim; cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.
Ni bydd gogoniant Moab mwyach; yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn: 'Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!' Distewir dithau, Madmen, erlidia'r cleddyf di.
"Am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a'th drysorau dy hun, cei dithau hefyd dy ddal; Cemos i ffwrdd i gaethglud, ynghyd 'i offeiriaid a'i benaethiaid.
"Bu'n esmwyth ar Moab erioed; gorffwysodd fel gwin ar ei waddod; nis tywalltwyd o lestr i lestr; nid aeth hi i gaethiwed. Felly y cadwodd ei blas, ac ni newidiodd ei sawr.
Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser, ti, winwydden Sibma; estynnodd dy gangau hyd y mr, yn cyrraedd hyd Jaser; ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythau ac ar dy gynhaeaf gwin.
Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoledd yn y doldir ac yng ngwlad Moab; gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau, ac ni fydd neb yn sathru bloddest bloddest nad yw'n floddest.
Am hynny bydd fy nghalon yn dolefain fel sain ffliwt dros Moab, ac yn dolefain fel sain ffliwt dros wu375?r Cir-heres, oblegid darfu'r golud a gasglasant.
"Y sawl a ffy rhag y dychryn, fe syrth i'r ffos; a'r sawl a gyfyd o'r ffos, fe'i delir yn y fagl. Dygaf yr holl bethau hyn arni, ar Moab, ym mlwyddyn ei chosb," medd yr ARGLWYDD.
"Gerllaw Hesbon y safant, yn ffoaduriaid heb nerth; canys aeth tn allan o Hesbon, a fflam o blas Sihon, ac yswyd talcen Moab a chorun plant y cythrwfl.