“Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem. Edrychwch yn fanwl ym mhobman; chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus. Os allwch chi ddod o hyd i un person sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest, gwna i faddau i'r ddinas gyfan!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau? Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw. Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro. Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd.
Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain. Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl; dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.
Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr. Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.” Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iau yn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw.
Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig. Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch. Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi, a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau! Maen nhw wedi gwrthryfela ac wedi troi cefn ar Dduw mor aml.
“Jerwsalem — sut alla i faddau i ti am hyn? Mae dy bobl wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛ sydd ddim yn bod! Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhw dyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr. Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,
“Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha, ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr. Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd, achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud: “Am eu bod nhw'n dweud hyn, dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dân yn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”
“Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD “Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti — gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm. Dwyt ti ddim yn siarad ei hiaith hi, nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud.
Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd. Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched. Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg. Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys. Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol — a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff!
“A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi ei wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’”
Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o'm blaen i? Fi roddodd dywod ar y traeth fel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi. Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo; er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio.
Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud, “Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw. Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref; mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.”
wedi pesgi ac yn edrych mor dda. Does dim pen draw i'w drygioni nhw! Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad, nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.
Mae'r proffwydi'n dweud celwydd, a'r offeiriaid yn rheoli fel maen nhw eisiau. Ac mae fy mhobl i wrth eu boddau gyda'r sefyllfa! Ond beth wnewch chi pan ddaw'r cwbl i ben?”