"Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch; codwch faner a chyhoeddwch; peidiwch chelu ond dywedwch, 'Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach. Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.'
"Praidd ar ddisberod oedd fy mhobl; gyrrodd eu bugeiliaid hwy ar gyfeiliorn, a'u troi ymaith ar y mynyddoedd; crwydrasant o fynydd i fryn, gan anghofio'u corlan.
Yr oedd pob un a ddi o hyd iddynt yn eu difa, a'u gelynion yn dweud, 'Nid oes dim bai arnom ni, oherwydd y maent wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, eu gwir gynefin yr ARGLWYDD, gobaith eu hynafiaid.'
canys wele fi'n cynhyrfu ac yn arwain yn erbyn Babilon dyrfa o genhedloedd mawrion o dir y gogledd; safant yn rhengoedd yn ei herbyn; ac oddi yno y goresgynnir hi. Y mae eu saethau fel rhai milwr cyfarwydd na ddychwel yn waglaw.
caiff eich mam ei chywilyddio'n ddirfawr, a gwaradwyddir yr un a roes enedigaeth ichwi. Ie, bydd yn wehilion y cenhedloedd, yn anialwch, yn grastir ac yn ddiffeithwch.
Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD, ni phreswylir hi, ond bydd yn anghyfannedd i gyd; bydd pawb sy'n mynd heibio i Fabilon yn arswydo ac yn synnu at ei holl glwyfau.
Bloeddiwch yn ei herbyn mewn goruchafiaeth, o bob cyfeiriad: 'Gwnaeth arwydd o ymostyngiad, cwympodd ei hamddiffynfeydd, bwriwyd ei muriau i lawr.' Gan mai dial yr ARGLWYDD yw hyn, dialwch arni; megis y gwnaeth hi, gwnewch iddi hithau.
Torrwch ymaith o Fabilon yr heuwr, a'r sawl sy'n trin cryman ar adeg medi. Rhag cleddyf y gorthrymwr bydd pob un yn troi at ei bobl ei hun, a phob un yn ffoi i'w wlad.
"Praidd ar wasgar yw Israel, a'r llewod yn eu hymlid. Brenin Asyria a'u hysodd gyntaf, yna Nebuchadnesar brenin Babilon yn olaf oll a gnodd eu hesgyrn.
Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,' medd yr ARGLWYDD, 'yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i'r rhai a adawaf yn weddill.'
"Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ac yn erbyn trigolion Pecod; anrheithia hi, difetha hi'n llwyr," medd yr ARGLWYDD. "Gwna yn l yr hyn oll a orchmynnaf i ti.
"Galwch y saethwyr yn erbyn Babilon, pob un sy'n tynnu bwa; gwersyllwch yn ei herbyn o amgylch, rhag i neb ddianc ohoni. Talwch iddi yn l ei gweithred, ac yn l y cwbl a wnaeth gwnewch iddi hithau; canys bu'n drahaus yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.
Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
"Am hynny bydd anifeiliaid yr anialdir a'r hiena yn trigo yno, a'r estrys yn cael cartref yno; ni fydd neb yn preswylio yno mwyach, ac nis cyfanheddir o genhedlaeth i genhedlaeth.
Gafaelant yn y bwa a'r waywffon; y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y mr yn rhuo; marchogant ar feirch, a dod yn rhengoedd fel gwu375?r i ryfel yn dy erbyn di, ferch Babilon.
"Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, fe'u hymlidiaf ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, a'i gynlluniau yn erbyn gwlad y Caldeaid. Yn ddiau fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn wir bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.