Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Babilon a gwlad Babilonia, drwy'r proffwyd Jeremeia: |
| 2 |
| “Cyhoeddwch y newyddion drwy'r gwledydd i gyd; peidiwch dal dim yn ôl. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed ac yn deall: ‘Mae Babilon yn mynd i syrthio! Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio! Bydd Merodach yn cael ei falu! Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio! Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu. |
| 3 |
| Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd. Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno. Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’ |
| 4 |
| “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.” Byddan nhw'n crïo wrth gerdded, ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto. |
| 5 |
| Byddan nhw'n holi am y ffordd i Seion, ac yna'n troi i'r cyfeiriad hwnnw. Byddan nhw'n ymrwymo i fod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio. |
| 6 |
| “Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll. Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd. Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd — crwydro o gopa un bryn i'r llall; wedi anghofio'r ffordd yn ôl i'r gorlan. |
| 7 |
| Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio. Ond wedyn roedd y gelynion hynny'n dweud, ‘Does dim bai arnon ni. Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Fe oedd eu porfa go iawn nhw — unig obaith eu hynafiaid.’” |
| 8 |
| “Ffowch o Babilon! Ewch allan o wlad y Babiloniaid! Am y cyntaf i adael! — fel y bychod geifr sy'n arwain y praidd. |
| 9 |
| Dw i'n mynd i wneud i nifer o wledydd cryfion o'r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhesi i ymosod arni, yn dod o'r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau'n taro'r targed bob tro, fel saethau'r milwyr gorau. |
| 10 |
| Bydd gwlad Babilonia yn cael ei hysbeilio. Bydd milwyr y gelyn yn cymryd popeth maen nhw eisiau,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. |
| 11 |
| “Bobl Babilon, chi wnaeth ysbeilio gwlad fy mhobl i. Roeddech chi mor hapus, ac yn dathlu. Roeddech chi'n prancio o gwmpas fel lloi mewn cae. Roeddech chi'n gweryru fel meirch. |
| 12 |
| Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio'n fawr, a'r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo'r gwarth. I ddweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o'r gwledydd i gyd! Bydd hi'n anialwch sych a diffaith.” |
| 13 |
| Am fod yr ARGLWYDD wedi digio fydd neb yn cael byw yno — bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi eu syfrdanu, ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi. |
| 14 |
| “Pawb i'w le, yn barod i ymosod ar Babilon! Dewch, chi sy'n trin y bwa saeth, saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd! Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. |
| 15 |
| Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad. Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio. Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio, a'i waliau wedi eu bwrw i lawr. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni. Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill! |
| 16 |
| Bydd y rhai sy'n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon; a'r rhai sy'n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd. Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain, a dianc i'w gwledydd rhag i'r gelyn eu lladd.” |
| 17 |
| Mae Israel fel praidd wedi ei yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn! |
| 18 |
| Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi brenin Babilon a'i bobl, fel gwnes i gosbi brenin Asyria. |
| 19 |
| Bydda i'n dod â phraidd Israel yn ôl i'w borfa ei hun. Byddan nhw'n pori ar fynydd Carmel ac yn ardal Bashan. Byddan nhw'n cael eu digoni ar fryniau Effraim ac yn ardal Gilead. |
| 20 |
| Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “Fydd Israel yn gwneud dim byd o'i le; fydd dim pechod i'w gael yn Jwda. Dw i'n mynd i faddau i'r rhai wnes i eu cadw'n fyw.” |
| 21 |
| “Ewch i ymosod ar wlad Merathaim! Ymosodwch ar bobl Pecod! Lladdwch nhw a'u dinistrio'n llwyr,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwnewch bopeth dw i'n ei orchymyn i chi. |
| 22 |
| Mae sŵn rhyfel i'w glywed yn y wlad — Sŵn dinistr ofnadwy! |
| 23 |
| Roedd Babilon fel gordd yn malu'r ddaear; ond bellach mae'r ordd wedi ei thorri! Mae Babilon wedi ei gwneud yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd i gyd. |
| 24 |
| Roeddwn i wedi gosod trap i ti, Babilon, a chest dy ddal cyn i ti sylweddoli beth oedd yn digwydd! Am dy fod wedi ymladd yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD, cest dy ddal a'th gymryd yn gaeth.” |
| 25 |
| Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau; mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg. Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid. |
| 26 |
| “Dewch yn ei herbyn hi o ben draw'r byd! Agorwch ei hysguboriau hi! Trowch hi'n domen o adfeilion! Dinistriwch hi'n llwyr! Peidiwch gadael unrhyw un ar ôl yn fyw! |
| 27 |
| Lladdwch ei milwyr hi i gyd, fel teirw yn cael eu gyrru i'r lladd-dy! Ydy, mae hi ar ben arnyn nhw! Mae'r diwrnod iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod!” |
| 28 |
| Gwrandwch ar y ffoaduriaid sy'n dianc o Babilon. Maen nhw ar eu ffordd i Seion, i ddweud sut mae'r ARGLWYDD wedi dial — wedi dial ar Babilon am beth wnaethon nhw i'w deml. |
| 29 |
| “Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon! Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi! Codwch wersyll o gwmpas y ddinas! Does neb i gael dianc! Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi. Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill. Mae hi wedi ymddwyn yn haerllug yn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel. |
| 30 |
| Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. |
| 31 |
| “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod. |
| 32 |
| Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio, a fydd neb yna i'w chodi ar ei thraed. Dw i'n mynd i roi dy drefi di ar dân, a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi'n ulw.” |
| 33 |
| Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae'r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw'n rhydd. |
| 34 |
| Ond mae'r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e. Bydd e'n gweithredu ar eu rhan nhw, ac yn dod â heddwch i'w gwlad nhw. Ond bydd yn aflonyddu ar y bobl sy'n byw yn Babilon. |
| 35 |
| Bydd cleddyf yn taro'r Babiloniaid,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd yn taro pawb sydd yn byw yn Babilon. Bydd yn taro ei swyddogion a'i gwŷr doeth! |
| 36 |
| Bydd cleddyf yn taro ei phroffwydi ffals, a bydd hi'n amlwg mai ffyliaid oedden nhw. Bydd cleddyf yn taro ei milwyr, a byddan nhw'n cael eu difa! |
| 37 |
| Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel. Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi, a byddan nhw'n wan fel merched! Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau, a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail. |
| 38 |
| Bydd sychder yn taro'r wlad, a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben! Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiau a delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof! |
| 39 |
| Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrys fydd yn byw yn Babilon. Fydd pobl yn byw yno byth eto — neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau. |
| 40 |
| Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. |
| 41 |
| “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r byd yn paratoi i ryfel. |
| 42 |
| Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.” |
| 43 |
| Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw. Does dim byd allith e ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynddo, fel gwraig mewn poen wrth gael babi. |
| 44 |
| “Bydda i'n gyrru pobl Babilon o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?” |
| 45 |
| Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i wlad Babilonia: “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw. |
| 46 |
| Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed fod Babilon wedi ei choncro. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed drwy'r gwledydd i gyd.” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/jeremiah/050.mp3
52
50