Ffowch o ganol Babilon, achubed pob un ei hunan. Peidiwch chymryd eich difetha gan ei drygioni hi, canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD; y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.
Ceisiem iachu Babilon, ond ni chafodd ei hiachu; gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad. Canys cyrhaeddodd ei barnedigaeth i'r nefoedd, a dyrchafwyd hi hyd yr wybren.
"Hogwch y saethau. Llanwch y cewyll. Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd brenhinoedd Media; canys y mae ei fwriad yn erbyn Babilon, i'w dinistrio. Dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial am ei deml.
Codwch faner yn erbyn muriau Babilon; cryfhewch y wyliadwriaeth, a darparu gwylwyr a gosod cynllwynwyr; oherwydd bwriadodd a chwblhaodd yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd am drigolion Babilon.
Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, bydd yn peri i darth godi o eithafoedd y ddaear, yn gwneud mellt 'r glaw, ac yn dwyn allan wyntoedd o'i ystordai.
"Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr," medd yr ARGLWYDD, "dinistrydd yr holl ddaear. Estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th dreiglo i lawr o'r creigiau, a'th wneud yn fynydd llosgedig.
"Codwch faner yn y tir, canwch utgorn ymysg y cenhedloedd, neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn; galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd, Ararat, Minni ac Ascenas. Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn, dygwch ymlaen feirch, mor niferus 'r locustiaid heidiog.
Bydd y ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen, oherwydd fe saif bwriadau'r ARGLWYDD yn erbyn Babilon, i wneud gwlad Babilon yn anialdir, heb neb yn trigo ynddo.
"Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon; bwriodd fi heibio fel llestr gwag; fel draig fe'm llyncodd; llanwodd ei fol 'm rhannau danteithiol, a'm chwydu allan."
"Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn," medd yr ARGLWYDD.
Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn.
Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwu375?r cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro," medd y Brenin ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel thn; yn ofer y llafuriodd y bobloedd, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tn."
Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.
ac yna dywed, 'O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.'