"Yn yr amser hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem,
a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.
Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn; nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, "Beth a wneuthum?" Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.
Y mae'r cryr yn yr awyr yn adnabod ei dymor; y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod; ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.
"'Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill, a'u meysydd i'w concwerwyr. Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
A oes cywilydd arnynt pan wnnt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,' medd yr ARGLWYDD.
"'Pan gasglwn hwy,' medd yr ARGLWYDD, 'nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren; gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.'"
Pam yr oedwn? Ymgasglwch ynghyd, inni fynd i'r dinasoedd caerog, a chael ein difetha yno. Canys yr ARGLWYDD ein Duw a barodd ein difetha; rhoes i ni ddu373?r gwenwynig i'w yfed, oherwydd pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD.
Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan; crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru. Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder, y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.
Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: "Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?" "Pam y maent yn fy nigio 'u delwau, 'u heilunod estron?"