O na bai gennyf yn yr anialwch lety fforddolion! Gadawn fy mhobl, a mynd i ffwrdd oddi wrthynt. Canys y maent oll yn odinebwyr, ac yn gwmni o dwyllwyr.
"Plygasant eu tafod, fel bwa, i gelwydd; ac nid ar bwys gwirionedd yr aethant yn gryf yn y wlad. Aethant o un drwg i'r llall, ac nid ydynt yn fy adnabod i," medd yr ARGLWYDD.
Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch; canys y maent wedi eu dinistrio fel nad neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg; y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.
Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall hyn? Wrth bwy y traethodd genau yr ARGLWYDD, er mwyn iddo fynegi? Pam y dinistriwyd y tir, a'i ddifa fel anialwch heb neb yn ei dramwyo?
Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn," medd yr ARGLWYDD.
sef yr Aifft, Jwda ac Edom, plant Ammon a Moab, a phawb o drigolion yr anialwch sydd 'u talcennau'n foel. Oherwydd y mae'r holl genhedloedd yn ddienwaededig, a holl du375? Israel heb enwaedu arnynt yn eu calon."