|
| 1 |
|
| Myfi yw'r gu373?r a welodd ofid dan wialen ei ddicter. |
|
| 2 |
|
| Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni. |
|
| 3 |
|
| Daliodd i droi ei law yn f'erbyn, a hynny ddydd ar l dydd. |
|
| 4 |
|
| Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni, a maluriodd f'esgyrn. |
|
| 5 |
|
| Gwnaeth warchae o'm cwmpas, a'm hamgylchynu chwerwder a blinder. |
|
| 6 |
|
| Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw. |
|
| 7 |
|
| Caeodd arnaf fel na allwn ddianc, a gosododd rwymau trwm amdanaf. |
|
| 8 |
|
| Pan elwais, a gweiddi am gymorth, fe wrthododd fy ngweddi. |
|
| 9 |
|
| Caeodd fy ffyrdd meini mawrion, a gwneud fy llwybrau'n gam. |
|
| 10 |
|
| Y mae'n gwylio amdanaf fel arth, fel llew yn ei guddfa. |
|
| 11 |
|
| Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio, ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd. |
|
| 12 |
|
| Paratdd ei fwa, a'm gosod yn nod i'w saeth. |
|
| 13 |
|
| Anelodd saethau ei gawell a'u trywanu i'm perfeddion. |
|
| 14 |
|
| Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd, yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd. |
|
| 15 |
|
| Llanwodd fi chwerwder, a'm meddwi 'r wermod. |
|
| 16 |
|
| Torrodd fy nannedd cherrig, a gwneud imi grymu yn y lludw. |
|
| 17 |
|
| Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni. |
|
| 18 |
|
| Yna dywedais, "Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD." |
|
| 19 |
|
| Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. |
|
| 20 |
|
| Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. |
|
| 21 |
|
| Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. |
|
| 22 |
|
| Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. |
|
| 23 |
|
| Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. |
|
| 24 |
|
| Dywedais, "Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho." |
|
| 25 |
|
| Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. |
|
| 26 |
|
| Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. |
|
| 27 |
|
| Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid. |
|
| 28 |
|
| Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno; |
|
| 29 |
|
| boed iddo osod ei enau yn y llwch; hwyrach fod gobaith iddo. |
|
| 30 |
|
| Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro, a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg. |
|
| 31 |
|
| Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth; |
|
| 32 |
|
| er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn l ei dosturi mawr, |
|
| 33 |
|
| gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl. |
|
| 34 |
|
| Sathru dan draed holl garcharorion y ddaear, |
|
| 35 |
|
| a thaflu o'r neilltu hawl rhywun gerbron y Goruchaf, |
|
| 36 |
|
| a gwyrdroi achos Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn? |
|
| 37 |
|
| Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei drefnu? |
|
| 38 |
|
| Onid o enau'r Goruchaf y daw drwg a da? |
|
| 39 |
|
| Sut y gall unrhyw un byw rwgnach, ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb? |
|
| 40 |
|
| Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, |
|
| 41 |
|
| a dyrchafu'n calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd. |
|
| 42 |
|
| Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela, ac nid wyt ti wedi maddau. |
|
| 43 |
|
| Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid, yn lladd yn ddiarbed. |
|
| 44 |
|
| Ymguddiaist mewn cwmwl rhag i'n gweddi ddod atat. |
|
| 45 |
|
| Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthion ymysg y bobloedd. |
|
| 46 |
|
| Y mae'n holl elynion yn gweiddi'n groch yn ein herbyn. |
|
| 47 |
|
| Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl, hefyd mewn difrod a dinistr. |
|
| 48 |
|
| Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddu373?r o achos dinistr merch fy mhobl; |
|
| 49 |
|
| y mae'n diferu'n ddi-baid, heb gael gorffwys, |
|
| 50 |
|
| hyd onid edrycha'r ARGLWYDD a gweld o'r nefoedd. |
|
| 51 |
|
| Y mae fy llygad yn flinder imi o achos dinistr holl ferched fy ninas. |
|
| 52 |
|
| Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achos yn fy erlid yn wastad fel aderyn. |
|
| 53 |
|
| Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew, ac yn taflu cerrig arnaf. |
|
| 54 |
|
| Llifodd y dyfroedd trosof, a dywedais, "Y mae ar ben arnaf." |
|
| 55 |
|
| Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. |
|
| 56 |
|
| Clywaist fy llef: "Paid throi'n glustfyddar i'm cri am gymorth." |
|
| 57 |
|
| Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat; dywedaist, "Paid ag ofni." |
|
| 58 |
|
| Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos, ac yn gwaredu fy mywyd. |
|
| 59 |
|
| Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd mi, a dyfernaist o'm plaid. |
|
| 60 |
|
| Gwelaist eu holl ddial, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn. |
|
| 61 |
|
| Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn |
|
| 62 |
|
| geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyr yn f'erbyn bob dydd. |
|
| 63 |
|
| Edrych arnynt yn eistedd neu'n sefyll, fi yw testun eu gwawd. |
|
| 64 |
|
| O ARGLWYDD, tl iddynt yn l gweithredoedd eu dwylo. |
|
| 65 |
|
| Rho iddynt ofid calon, a bydded dy felltith arnynt. |
|
| 66 |
|
| O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid, a dinistria hwy oddi tan y nefoedd. |
|
|
|
|