|
| 1 |
|
| Dw i yn ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef. Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i. |
|
| 2 |
|
| Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd i fyw yng nghanol tywyllwch dudew. |
|
| 3 |
|
| Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro, yn ddi-stop. |
|
| 4 |
|
| Mae wedi curo fy nghorff yn ddim, ac wedi torri fy esgyrn. |
|
| 5 |
|
| Mae fel byddin wedi fy amgylchynu, yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw. |
|
| 6 |
|
| Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm. |
|
| 7 |
|
| Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc. Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trymion. |
|
| 8 |
|
| Dw i'n gweiddi'n daer am help, ond dydy e'n cymryd dim sylw. |
|
| 9 |
|
| Mae wedi blocio pob ffordd allan; mae pob llwybr fel drysfa! |
|
| 10 |
|
| Mae e fel arth neu lew yn barod i ymosod arna i. |
|
| 11 |
|
| Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau. Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun. |
|
| 12 |
|
| Anelodd ei fwa saeth ata i; fi oedd ei darged. |
|
| 13 |
|
| Gollyngodd ei saethau a'm trywanu yn fy mherfedd. |
|
| 14 |
|
| Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort, ac yn fy ngwawdio i ar gân. |
|
| 15 |
|
| Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw; mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod. |
|
| 16 |
|
| Mae wedi gwneud i mi gnoi graean, ac wedi rhwbio fy ngwyneb yn y baw. |
|
| 17 |
|
| Does gen i ddim tawelwch meddwl; dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus. |
|
| 18 |
|
| Dywedais, “Alla i ddim cario mlaen. Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.” |
|
| 19 |
|
| Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartre yn brofiad chwerw! |
|
| 20 |
|
| Mae ar fy meddwl drwy'r amser, ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd. |
|
| 21 |
|
| Ond wedyn dw i'n cofio hyn, a dyma sy'n rhoi gobaith i mi: |
|
| 22 |
|
| Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a'i garedigrwydd e'n para am byth. |
|
| 23 |
|
| Maen nhw'n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” |
|
| 24 |
|
| “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i'n gobeithio.” |
|
| 25 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio, ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help. |
|
| 26 |
|
| Mae'n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i'r ARGLWYDD ddod i'n hachub ni. |
|
| 27 |
|
| Mae'n beth da i rywun ddysgu ymostwng tra mae'n dal yn ifanc. |
|
| 28 |
|
| Dylai rhywun eistedd yn dawel pan mae'r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e. |
|
| 29 |
|
| Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr yn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd. |
|
| 30 |
|
| Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro, a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio. |
|
| 31 |
|
| Fydd yr Arglwydd ddim yn ein gwrthod ni am byth. |
|
| 32 |
|
| Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio, achos mae ei gariad e mor fawr. |
|
| 33 |
|
| Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef nac achosi poen i bobl. |
|
| 34 |
|
| Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru, |
|
| 35 |
|
| a hawliau dynol yn cael eu diystyru, a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun; |
|
| 36 |
|
| os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys — ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl? |
|
| 37 |
|
| Pwy sy'n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei ganiatáu? |
|
| 38 |
|
| Onid y Duw Goruchaf sy'n dweud beth sy'n digwydd — p'run ai dinistr neu fendith? |
|
| 39 |
|
| Pa hawl sydd gan rywun i gwyno pan mae'n cael ei gosbi am ei bechod? |
|
| 40 |
|
| Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw, a throi nôl at yr ARGLWYDD. |
|
| 41 |
|
| Gadewch i ni droi'n calonnau a chodi'n dwylo at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu, |
|
| 42 |
|
| “Dŷn ni wedi gwrthryfela'n ddifrifol, a dwyt ti ddim wedi maddau i ni. |
|
| 43 |
|
| Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau, gan ladd pobl heb ddangos trugaredd. |
|
| 44 |
|
| Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd. |
|
| 45 |
|
| Ti wedi'n gwneud ni fel sbwriel a baw yng ngolwg y bobloedd. |
|
| 46 |
|
| Mae ein gelynion i gyd yn gwneud hwyl ar ein pennau. |
|
| 47 |
|
| Mae panig a'r pydew wedi'n dal ni, difrod a dinistr.” |
|
| 48 |
|
| Mae afonydd o ddagrau yn llifo o'm llygaid am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio. |
|
| 49 |
|
| Mae'r dagrau'n llifo yn ddi-baid; wnân nhw ddim stopio |
|
| 50 |
|
| nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd ac yn ein gweld ni. |
|
| 51 |
|
| Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas yn fy ngwneud i mor drist. |
|
| 52 |
|
| Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn, heb reswm da i wneud hynny. |
|
| 53 |
|
| Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew ac yna ei gau gyda charreg. |
|
| 54 |
|
| Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen; ron i'n meddwl fy mod i'n mynd i foddi. |
|
| 55 |
|
| Ond dyma fi'n galw arnat ti am help, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. |
|
| 56 |
|
| Dyma ti'n clywed fi'n pledio, “Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!” |
|
| 57 |
|
| A dyma ti'n dod ata i pan o'n i'n galw, a dweud, “Paid bod ag ofn!” |
|
| 58 |
|
| Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos; rwyt wedi dod i'm hachub. |
|
| 59 |
|
| Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD, felly wnei di farnu o'm plaid i? |
|
| 60 |
|
| Ti wedi gweld eu malais nhw, a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i. |
|
| 61 |
|
| Ti wedi eu clywed nhw'n gwawdio, O ARGLWYDD, a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i. |
|
| 62 |
|
| Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwd ac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser. |
|
| 63 |
|
| Edrycha arnyn nhw! — O fore gwyn tan nos maen nhw'n fy ngwawdio i ar gân. |
|
| 64 |
|
| Tala yn ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD; rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu. |
|
| 65 |
|
| Gyrra nhw'n wallgof! Melltithia nhw! |
|
| 66 |
|
| Dos ar eu holau yn dy lid, a'u dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O ARGLWYDD. |
|
|
|
|