|
| 1 |
|
| Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni; edrych a gwl ein gwarth. |
|
| 2 |
|
| Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid. |
|
| 3 |
|
| Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau, a'n mamau fel gweddwon. |
|
| 4 |
|
| Y mae'n rhaid inni dalu am y du373?r a yfwn, a phrynu'r coed a gawn. |
|
| 5 |
|
| Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir; yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys. |
|
| 6 |
|
| Gwnaethom gytundeb 'r Aifft, ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd. |
|
| 7 |
|
| Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach; ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau. |
|
| 8 |
|
| Caethweision sy'n llywodraethu arnom, ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael. |
|
| 9 |
|
| Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd, oherwydd y cleddyf yn yr anialwch. |
|
| 10 |
|
| Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn. |
|
| 11 |
|
| Treisir gwragedd yn Seion, a merched ifainc yn ninasoedd Jwda. |
|
| 12 |
|
| Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo, ac ni pherchir yr henuriaid. |
|
| 13 |
|
| Y mae'r dynion ifainc yn llafurio 'r maen melin, a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed. |
|
| 14 |
|
| Gadawodd yr henuriaid y porth, a'r gwu375?r ifainc eu cerddoriaeth. |
|
| 15 |
|
| Diflannodd llawenydd o'n calonnau, a throdd ein dawnsio yn alar. |
|
| 16 |
|
| Syrthiodd y goron oddi ar ein pen; gwae ni, oherwydd pechasom. |
|
| 17 |
|
| Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol, ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid: |
|
| 18 |
|
| am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch, a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth. |
|
| 19 |
|
| Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth. |
|
| 20 |
|
| Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd, ac wedi'n gwrthod am amser mor faith? |
|
| 21 |
|
| ARGLWYDD, tyn ni'n l atat, ac fe ddychwelwn; adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu, |
|
| 22 |
|
| os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr, ac yn ddig iawn wrthym. |
|
|
|
|