A dywedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn oedd wedi ei wisgo lliain, "Dos i mewn rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, a llanw dy ddwylo 'r marwor tanllyd sydd rhwng y cerwbiaid, a'i wasgar dros y ddinas." Gwnaeth hynny yn fy ngolwg.
Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD wedi codi oddi ar y cerwbiaid a mynd at riniog y deml. Yr oedd y cwmwl yn llenwi'r adeilad, a'r cyntedd yn llawn o ddisgleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.
Pan orchmynnodd i'r dyn oedd wedi ei wisgo lliain, a dweud, "Cymer dn oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y cerwbiaid", fe aeth yntau i mewn a sefyll yn ymyl yr olwyn.
Yna estynnodd un o blith y cerwbiaid ei law at y tn oedd rhwng y cerwbiaid; cododd beth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd wedi ei wisgo lliain; cymerodd yntau ef a mynd allan.
Wrth imi edrych, gwelais hefyd bedair olwyn yn ymyl y cerwbiaid, un olwyn yn ymyl pob cerwb; yr oedd ymddangosiad yr olwynion yn debyg i eurfaen disglair.
Pan symudent, fe aent i un o'r pedwar cyfeiriad, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. Fe i'r cerwbiaid i ble bynnag yr oedd y pen yn wynebu, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.
Pan symudai'r cerwbiaid, fe symudai'r olwynion wrth eu hochr; pan estynnai'r cerwbiaid eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, nid oedd yr olwynion yn ymadael hwy.
Estynnodd y cerwbiaid eu hadenydd a chodi oddi ar y ddaear yn fy ngu373?ydd, ac fel yr oeddent yn mynd yr oedd yr olwynion yn mynd gyda hwy. Ond bu iddynt aros wrth ddrws porth y dwyrain i du375?'r ARGLWYDD, ac yr oedd gogoniant Duw Israel yno uwch eu pennau.