Yna cododd yr ysbryd fi a mynd mi at borth y dwyrain i du375?'r ARGLWYDD, sef yr un sy'n wynebu tua'r dwyrain. Ac yno wrth ddrws y porth yr oedd pump ar hugain o ddynion, a gwelais yn eu mysg Jaasaneia fab Assur a Pelateia fab Benaia, arweinwyr y bobl.
Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arnaf a dweud wrthyf, "Dywed, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fel y llefarwch, du375? Israel; fe wn i beth sy'n dod i'ch meddyliau.
Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; ni fuoch yn dilyn fy neddfau nac yn ufuddhau i'm barnau, ond yn gwneud yn l barnau'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch.'"
Ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu farw Pelateia fab Benaia. Syrthiais ar fy wyneb a gweiddi llais uchel a dweud, "Och! Fy Arglwydd DDUW, a wyt am wneud diwedd llwyr ar weddill Israel?"
"Fab dyn, am dy dylwyth tylwyth o'r un gwaed thi, a holl du375? Israel y mae trigolion Jerwsalem yn dweud, 'Y maent hwy yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD; i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.'
Felly dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Er imi eu hanfon ymhell i blith y cenhedloedd, a'u gwasgaru trwy'r gwledydd, eto am ychydig bm yn gysegr iddynt yn y gwledydd lle maent.'
Felly dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe'ch casglaf o blith y bobloedd, a'ch dwyn ynghyd o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a rhoddaf ichwi dir Israel.'