"Fab dyn, yr wyt yn byw yng nghanol tylwyth gwrthryfelgar; y mae ganddynt lygaid i weld, ond ni welant, a chlustiau i glywed, ond ni chlywant, am eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.
Felly, fab dyn, gwna'n barod dy baciau ar gyfer caethglud, ac ymfuda liw dydd yn eu gu373?ydd; a phan ymfudi o'th gartref yn eu gu373?ydd i le arall, efallai y deallant eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.
Dos 'th baciau allan, fel paciau caethglud, liw dydd yn eu gu373?ydd, a dos dithau allan yn eu gu373?ydd gyda'r nos, yn union fel y rhai sy'n mynd i gaethglud.
Yn eu gu373?ydd cod dy baciau ar dy ysgwydd a mynd hwy allan yn y gwyll; gorchuddia dy wyneb rhag iti weld y tir, oherwydd gosodais di'n arwydd i du375? Israel."
Gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. Liw dydd euthum 'm paciau allan, fel paciau caethglud, a liw nos cloddiais trwy'r mur 'm dwylo, a mynd hwy allan yn y gwyll a'u cario ar fy ysgwydd yn eu gu373?ydd.
Bydd y tywysog sydd yn eu plith yn codi ei baciau ar ei ysgwydd yn y gwyll ac yn mynd allan; cloddir trwy'r mur, iddo fynd allan trwyddo, a bydd yn gorchuddio'i wyneb rhag iddo weld y tir 'i lygaid.
Ond byddaf yn arbed ychydig ohonynt rhag y cleddyf, a rhag newyn a haint, er mwyn iddynt gydnabod eu ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd lle'r nt; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD."
Yna dywed wrth bobl y wlad, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am y rhai sy'n byw yn Jerwsalem ac yng ngwlad Israel: Byddant yn bwyta'u bwyd mewn pryder ac yn yfed eu diod mewn anobaith, oherwydd fe ddinoethir eu gwlad o bopeth sydd ynddi o achos trais yr holl rai sy'n byw ynddi.
Am hynny, dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhoddaf ddiwedd ar y ddihareb hon, ac ni ddefnyddiant hi mwyach yn Israel.' Dywed wrthynt, 'Y mae'r dyddiau'n agosu pan gyflawnir pob gweledigaeth.'
Ond byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn llefaru yr hyn a ddymunaf, ac fe'i cyflawnir heb ragor o oedi. Yn eich dyddiau chwi, dylwyth gwrthryfelgar, byddaf yn cyflawni'r hyn a lefaraf," medd yr Arglwydd DDUW.