×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseciel 15

1
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Fab dyn, sut y mae pren y winwydden yn well na phob coeden, ac na phob cangen ar goed y goedwig?
3
A gymerir pren ohoni i wneud rhywbeth defnyddiol? A wneir ohoni hoelen bren i grogi rhywbeth arni?
4
Os rhoddir hi'n gynnud i dn, bydd y tn yn difa'r ddau ben, a'r canol yn golosgi; ac i beth y mae'n dda wedyn?
5
Os na ellid gwneud dim defnyddiol ohoni pan oedd yn gyfan, pa faint llai y gwneir dim defnyddiol ohoni wedi i'r tn ei difa ac iddi olosgi?
6
Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fel y rhoddais bren y winwydden o blith coed y goedwig yn gynnud i'r tn, felly y gwnaf i drigolion Jerwsalem.
7
Byddaf yn gosod fy wyneb yn eu herbyn; er iddynt ddod allan o'r tn, eto bydd y tn yn eu difa. A phan osodaf fy wyneb yn eu herbyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
8
Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch, am iddynt fod yn anffyddlon, medd yr Arglwydd DDUW."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau