Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: |
| 2 |
| “Ddyn, o'r holl wahanol fathau o goed sydd i'w cael, ydy pren y winwydden yn dda i rywbeth? |
| 3 |
| Wyt ti'n gallu gwneud rhywbeth defnyddiol gydag e? Ydy o'n ddigon cryf i wneud peg i hongian pethau arno? |
| 4 |
| Na, y gwir ydy, dydy e'n dda i ddim byd ond i'w losgi. Ac mae'n llosgi'n rhy gyflym beth bynnag! Fydd yr hyn sydd ar ôl ohono wedyn yn dda i rywbeth? |
| 5 |
| Na. Os oedd e ddim yn ddefnyddiol cyn ei losgi, sut all e fod o ddefnydd i unrhyw un pan mae e wedi ei losgi'n ulw? |
| 6 |
| “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Jerwsalem fel pren y winwydden. Dŷn nhw'n dda i ddim ond i gael eu llosgi! |
| 7 |
| Dw i wedi troi yn eu herbyn nhw. Falle eu bod nhw wedi llwyddo i ddianc o'r tân unwaith, ond maen nhw'n dal yn mynd i gael eu llosgi! Pan fydd hyn yn digwydd, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD! |
| 8 |
| Bydda i'n gwneud y tir yn anialwch diffaith, am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon i mi,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/ezekiel/015.mp3
48
15