×

Beibl Cymraeg 2023

Eseciel 19

1
“Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel.
2
Dywed fel hyn: ‘Sut un oedd dy fam di? Onid llewes gyda'r llewod, yn gorwedd gyda'r llewod ifanc ac yn magu ei chenawon?
3
Magodd un o'i chenawon, a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol.
4
Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano, a chafodd ei ddal yn eu trap. Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachau yn gaeth i'r Aifft.
5
Pan welodd y fam ei fod wedi mynd, a bod ei gobaith wedi chwalu, cymerodd un arall o'i chenawon, a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.
6
Cerddodd yng nghanol y llewod, wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol.
7
Cymerodd y gweddwon iddo'i hun a dinistrio'r trefi'n llwyr. Pan oedd yn rhuo, roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad.
8
Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpas i ymosod arno. Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drosto a'i ddal yn eu trap;
9
rhoi coler a bachyn am ei wddf, a mynd ag e at frenin Babilon. Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar fel bod ei ruo i'w glywed ddim mwy ar fynyddoedd Israel.
10
Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hirion wedi ei phlannu ar lan y dŵr. Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth am fod digon o ddŵr iddi.
11
Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw. Tyfodd yn uchel at y cymylau; roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.
12
Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidd a'i thaflu ar lawr. Chwythodd gwynt poeth y dwyrain a chrino ei changhennau ffrwythlon. Llosgodd yn y tân.
13
Bellach mae wedi ei phlannu yn yr anialwch mewn tir sych, cras.
14
Lledodd y tân o'i changen gref a'i llosgi o'i gwraidd i'w brigau. Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôl i wneud teyrnwialen ohoni.’ Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!”
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau