×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseciel 2

1
ac yn dweud wrthyf, "Fab dyn, saf ar dy draed, ac fe siaradaf thi."
2
Ac fel yr oedd yn siarad mi, daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a gwrandewais arno'n siarad mi.
3
Dywedodd wrthyf, "Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u hynafiaid wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw.
4
At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.'
5
Prun bynnag a wrandawant ai peidio oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg.
6
A thithau, fab dyn, paid 'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.
7
Ond llefara di fy ngeiriau wrthynt, prun bynnag a wrandawant ai peidio, oherwydd gwrthryfelwyr ydynt.
8
"Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti."
9
Ac fel yr oeddwn yn edrych, gwelais law wedi ei hestyn tuag ataf gyda sgrl ynddi.
10
Datododd y sgrl o'm blaen, ac yr oedd ysgrifen ar ei hwyneb a'i chefn; yn ysgrifenedig arni yr oedd galarnadau, cwynfan a gwae.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau