Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r llais yn dweud, “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.” |
| 2 |
| Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma'r llais oedd yn siarad â mi |
| 3 |
| yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i — nhw a'u hynafiaid hefyd. |
| 4 |
| Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’ |
| 5 |
| Os byddan nhw'n gwrando neu beidio — wedi'r cwbl maen nhw'n griw o rebeliaid — byddan nhw o leia'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw. |
| 6 |
| “Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau — ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti. |
| 7 |
| Dywed di wrthyn nhw beth ydy'r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw anufudd. |
| 8 |
| Gwna di'n siŵr dy fod ti'n gwrando arna i. Paid ti â tynnu'n groes. Agor dy geg a bwyta'r hyn dw i'n ei roi i ti.” |
| 9 |
| A dyna pryd gwelais i law wedi ei hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl. |
| 10 |
| Dyma'r sgrôl yn cael ei hagor o'm blaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr — a'r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/ezekiel/002.mp3
48
2